free web hosting | free hosting | Business Web Hosting | Free Website Submission | shopping cart | php hosting

 

Tudalen Cartref

Oddeutu'n

Disfforia Cenedl

Trosedd Gasau

Llinell Gymorth Ffôn

Cyffyrddiad ni

Mardi Gras Caerdydd

UNIQUE (Cymru y Gogledd)

 

 

Nodau ac Amcanion

Cefnogi unrhyw berson Trawsrywiol yn eu cais am safon byw uchel.

Cefnogi unrhyw berson sy'n dymuno bod yn berson Trawsrywiol a helpu'r teulu i ddod i delerau â hyn.

Trechu Trosedd Gasau sy'n effeithio ar y gymuned Drawsrywiol drwy gefnogi unrhyw un sy'n dioddef gan y drosedd hon.

Helpu unrhyw un i hysbysu'r Heddlu am Drosedd Gasau gan sicrhau eu bod yn delio â'r mater yn effeithiol er mwyn i'r broblem beidio â bod.

Rhoi help ac arweiniad i gael y gwasanaethau gorau gan asiantaethau'r llywodraeth.

Rhoi help ac arweiniad i gael y gwasanaethau gorau gan yr awdurdodau lleol.

Sicrhau bod negeseuon sy'n cael eu gadael ar beiriant ateb yn derbyn ateb drannoeth.

Mae holl wasanaethau Trawsryw cymru am ddim.
Yr unig gost i chi yw cost galwad ffôn.
(Rydym yn ymgeisio am arian ar gyfer y gwasanaeth hwn).

PEN

 

 

 

Trosedd Gasau

Mae Trawsryw Cymru'n bryderus iawn am y nifer o droseddau sy'n effeithio ar ein cymuned trwy Gymru gyfan ond heb sôn amdanynt. Bydd trawsryw Cymru'n cefnogi unrhyw berson trawsrywiol i ddelio â throsedd gasau. Peidiwwch â dioddef yn dawel, mae help wrth law gan Drawsryw Cymru. Ar ffurf cefnogaeth a help i ddwyn y mater i sylw'r heddlu, mae gennym gysylltiadau ym mhedwar heddlu Cymru. Mae Trosedd Gasau'n ymddangos mewn sawl dull o niwed i gar, cartref, ymosodiad personol, galw enwau a hyd yn oed graffiti. Peidiwch da chi â dioddef unrhyw un o'r rhain yn dawel - gofynnwch am ein cefnogaeth a soniwch amdano.

PEN

 

 



Addysg a Hyfforddiant

Mae Trawsryw Cymru yn gweithio gydag ELWa (Addysg a Dysg Cymru) i ddatblygu gwell dulliau i sicrhau bod pob person trawsrywiol yn cael mynediad i ddysu gydol oes. Gall hyn olygu mynychu'r coleg lleol, neu'r brifysgol neu asiantaeth hyfforddi. Mae gennych chi i gyd hawl i gael addysg neu hyfforddiant er mwyn i chi gael swydd. Hefyd, mae gennych hawl i ail hyfforddi.

    PEN

 

 

 

 Cyflogaeth 

Nid oes unrhyw reoliadau cyflogaeth sy'n caniatau gwahaniaethu yn erbyn person trawsrywiol, er waetha'r hyn y gall cyflogwyr ei ddweud. Bydd Trawsryw Cymru'n cefnogi person sy'n dioddef gan warth, bwlio gan gyflogwyr neu gydweithwyr.

Peidiwch â dioddef yn dawel!

PEN

 

 

 

Iechyd

Gall pobl Drawsrywiol gael problemau gydag Awdurdodau Iechyd Cymru ac mae Trawsryw Cymru'n barod i ymladd achosion gyda'r awdurdod perthnasol. Rydym wedi gweithio yn y maes hwn gyda rhywfaint o lwyddiant. Gallwn hefyd helpu gyda phroblemau gyda meddygon lleol, ystytai lleol neu rannau eraill o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

PEN

 

 

 

Tai

Gall problemau tai fod ar sawl ffurf - gall cymdogion fod yn broblem, Cymdeithas Dai, Adran Dai Awdurdod Lleol neu landlord preifat. Peidiwch ag anghofio bod gan berson trawsrywiol yr un hawliau ag unrhyw un arall. Gellir delio â chymdogion mewn sawl modd. Mae gennym yr holl wybodaeth am y pwnc.

PEN

 

 

 

 

Sut ddechreuodd Trawsryw Cymru

Sefydlwyd Trawsryw Cymru oherwydd bod un o'i sefydlwyr angen cefnogaeth; roedd yn dioddef gan DROSEDD GASAU ddifrifol. Roedd hyn yn dangos bod angen mudiad cefnogi oedd yn gallu gweithio gyda'r heddlu a chyrff eraill i drawsrywiol drwy amser caled.

Gofynnodd un o'r ardaloedd Heddlu i ardal arall sut roedden nhw'n cefnogi person trawsrywiol. Roedd ganddyn nhw berson i alw arno/arni i gael cefnogaeth a chytunwyd i ddwyn y dioddefwyr a'r person cefnogi at ei gilydd. Dyma ddechrau Trawsryw Cymru ac oddi ar hynny, mae wedi mynd o nerth i nerth. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda Heddlu'r Pedwar Rhanbarth. O'r cyarfod hwn, ffurfiwyd cyfeillgarwrch a oedd yn arwain at sefydlu Trawsryw Cumru. Ar hyn o bryd, mudiad sy'n hunan-ariannu yw, ond gallwn gynnig help i unrhyw berson mewn angen.

Mae Trawsryw Cymru'n gweithio i gael hyd i ddulliau o ddwyn y gymuned drawsrywiol at ei gilydd gan ei bod braidd yn ddarniog ar draws Cymru. Y nod yw creu cymuned gefnogol yng Nghymru.

Mae'r sylfaenwyr yn bersonau trawsrywiol ar ôl triniaeth dyn i ddynes. Rhaid i ni adeiladu fesul tipyn.

PEN

 

Copyright Transgender Wales © 2003. All rights reserved.

 

Visitors: